29 Dorset
Street, Grangetown,
Caerdydd/Cardiff,
CF11 6PS
(Cymraeg)
TŶ TAIR LLOFFT gydag ESTYNIAD mewn ardal hynod
boblogaidd.
Mae hwn yn dŷ canol rhes o faint cysurus gyda
estyniad yn y cefn, a'r cyfan yn cynnwys: cyntedd, lolfa hir, ystafell fwyta
gwbl ar wahân, cegin, ystafell ymolchi â thoiled ar wahân ac yna tair lloft o
faint eithaf helaeth ar y llawr cyntaf. Mae yma wres canolog yn gweithio â nwy
a ffenestri gwydr dwbl.
Mae'n eiddo sydd mewn man hwylus ar gyfer y
gwasanaeth bws i Ganol y Ddinas, er ei fod hefyd yn ddigon agos i chi gerdded y
daith. Mae'r safleoedd manwerthu newydd ger Cae Peldroed Dinas Caerdydd yn
ardal Lecwydd hefyd o fewn cyrraedd hwylus.
Os ydych chi'n chwilio am eiddo i'w brynu am y tro
cyntaf, mae'n werth i chi ddod i weld hwn – gallai fod yn ddelfrydol ar eich
cyfer.
(English)
Situated in this popular location is this
traditional EXTENDED THREE BEDROOM HOUSE offering good size accommodation.
The extended accommodation comprises hallway, through
lounge/sitting room, separate dining room, kitchen, ground floor bathroom and
three good size bedrooms. The property benefits from gas central heating and
double glazed windows.
The property is conveniently located within close
proximity of local bus services to the City Centre which is also within walking
distance and recently constructed retail parks and Cardiff City Stadium
at Leckwith.
The Property would make an ideal first time
purchase and viewing is highly recommended.
DISGRIFAD FESUL YSTAFELL
(gyda bras fesuriadau)
Y LLAWR GWAELOD
Cyntedd:
Drws ffrynt o goed yn arwain i'r cyntedd a
grisiau'n arwain i'r llawr cyntaf.
Lolfa Hir:
22'4"
x 10"11' (ar ei lletaf). Ystafell hyfryd o faint hwylus ac yn ymestyn o'r
ffenestr yn y ffrynt i'r ffenestr gefn.
ACCOMMODATION:
(Approximate
Dimensions)
GROUND FLOOR
Hall:
Timber door gives access to hallway. Staircase to
first floor.
Lounge/Sitting
Room:
22'4"
x 10"11' (maximum). A nicely presented, good size reception room with
windows to front and rear.
Ystafell Fwyta:
9'4" x 8'6". Ystafell fwyta ddymunol a
helaeth, grât o frics moel a ffenest ar un ochr.
Dining
Room:
9'4"
x 8'6". A pleasant separate reception room with original brick wall fire
place feature and window to the side.
Cegin:
10' x 7'7". Yn cynnwys casgliad rhagorol o
gypyrddau cegin ar y llawr a'r waliau. Sinc sengl a 'drainer', gwaith plymio ar
gyfer peiriant golchi a golchi llestri. Ffenestr uwch ben y sinc a drws cefn
gwydr.
Kitchen:
10' x
7'7". Equipped with an excellent range of wall and base units. Plumbed for
washing machine & dishwasher. Single sink and drainer unit. Window to side.
Glazed door to rear.
Ystafell
Ymolchi:
Unedau
bath a phadell molchi mewn gwyn.
Toiled ar
wahân.
Bathroom:
Suite in
white comprising panel bath & wash basin.
Separate
W.C
Y LLAWR
CYNTAF: FIRST FLOOR:
Pen y
grisiau:
Landing:
Mynediad
i'r nenfwd.
Loft
access.
Llofft 1:
14'1" (ar ei lletaf) x 10'4". Ystafell
ragorol i wely-dwbl gyda dwy ffenestr yn wynebu'r ffrynt.
Bedroom
1:
14'1"
(maximum) x 10'4". An excellent double bedroom with two windows to front.
Llofft 2:
11' x 8'10". Ail ystafell wely o faint sylweddol
ar gyfer gwely-dwbl gyda ffenestr yn wynebu'r cefn.
Bedroom
2:
11' x
8'10". Another good size double bedroom with window to rear.
Llofft 3:
9'1" x 8'10". Ystafell wely arall o faint
cymedrol gyda ffenestr yn wynebu'r ochr.
Bedroom
3:
9'1"
x 8'10". A good size third bedroom with window to size.
Gwresogydd:
Gwres Canolog Nwy.
Heating:
Gas
Central Heating.
Gardd:
YN Y CEFN: Gardd wedi ei ffensio reit rownd.
Garden:
REAR:
Enclosed fenced garden.
Dod o hyd i'r tŷ:
O gyfeiriad y ddinas, dewch i lawr Clare Road, troi
i mewn i Cornwall Street ac y mae Dorset Street y trydydd stryd ar y chwith.
Directions:
From
Clare Road, proceed into Cornwall Street and Dorset Street is third turning on
the left.
PRIS:
/
PRICE:
£140,000
Mae
croeso i chi gysylltu â ni os ydych chi'n awyddus i gael golwg ar y tŷ – neu
eich bod am holi rhagor amdano:
Please
feel free to contact us if you would like to view the property or would like to
discuss anything further:
hywscoch@hotmail.com